Cyfnod Allweddol 3+
Mae myfyrwyr heddiw yn cael eu peledu gan wybodaeth anghywir, yn ansicr os yw’r hyn a ddywedir wrthynt yn ffaith wyddonol neu’n ffuglen wyddonol. Mae eu dewisiadau o ran beth maen nhw’n ei fwyta, o ble mae’n dod a’r ystyriaethau amgylcheddol o’i gwmpas yn dod yn fwyfwy cymhleth a dryslyd.
Gall Ffermwyr i Ysgolion helpu.
Mae Ffermwyr i Ysgolion yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at leisiau o ffermio modern ac yn gwahodd eich myfyrwyr i sgwrs agored am amaethyddiaeth yn y DU.
Rydym yn cynnig y cyfle i chi gael dau siaradwr difyr, brwdfrydig yn ymweld â’ch ysgol i sbarduno trafodaeth a dadl fel rhan o wasanaeth neu drafodaeth grŵp rhyngweithiol a diddorol.
Bydd dau ffermwr a hyfforddwyd gan yr NFU yn hwyluso sesiwn 45 munud gyda chynnwys cyfryngol, cwisiau, chwalu mythau ffermio a digon o gyfle i drafod a chwestiynau. Mae’r cynnwys wedi’i gynllunio i fod yn ddiddorol ac yn ysgogi’r meddwl drwyddo draw.
Eisiau diweddariadau o’r gystadleuaeth, mwy o adnoddau addysgu STEM am ddim, rhoddion a rhywfaint o hwyl Ffermfeisio pellach? Cofrestrwch isod:
Please wait while your we process your request.