Mae prosiectau Ffermio STEMterprise yn mynd â phlant trwy bob cam o sefydlu busnes siop fferm: ystyried y tymhorau wrth benderfynu pa gnwd i’w dyfu, tyfu eu cynhwysion eu hunain, ystyried maeth wrth ddylunio eu ryseitiau, defnyddio ymchwil marchnad i brofi eu syniadau gyda darpar ddefnyddwyr, gweithio o fewn cyllideb wrth brynu cynhwysion ychwanegol, dysgu sgiliau defnyddio cyllell wrth wneud eu cynhyrchion, cyfrifo elw disgwyliedig, dylunio deunydd pecynnu addas a llawer mwy.
Mae gwersi Gwyddoniaeth ymarferol a Dylunio a Thechnoleg, sydd wedi’u teilwra’n agos i raglen astudio pob grŵp blwyddyn, ac yn cael eu hymgorffori ym mhob rhan o’r prosiectau mae cyfleoedd i gymhwyso sgiliau Mathemateg i ymgysylltu â phroblemau bywyd go iawn wedi’u gwreiddio ym mhob cam. Mae’r prosiectau wedi’u cynllunio i fod yn hawdd i’w defnyddio ac yn eich galluogi i gyflwyno cynnwys allweddol o’r cwricwlwm cenedlaethol tra’n ymgorffori negeseuon pwysig am lythrennedd ariannol a tharddiad bwyd.
Mae Ffermio STEMterprise wedi derbyn achrediad Y Tic Gwyrdd gan y Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth ac mae’r prosiectau wedi’u hachredu gan Wobrau CREST a Phrifysgol y Plant. Cyrhaeddodd y prosiectau rownd derfynol gwobrau BETT ac ERA yn 2020.
Mae’r plant yn gweithio mewn grwpiau i gwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn paratoi eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion iogwrt baner fwyd eu hunain a sefydlu caffi iogwrt
Yn ystod y prosiect Ffermio STEMterprise bydd plant yn cwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn paratoi eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion iogwrt baner fwyd Prydain eu hunain a sefydlu caffi iogwrt.
Yn y cam hwn, cyflwynir yr her i’r plant: sefydlu caffi iogwrt. Bydd y plant yn dysgu i enwi ac adnabod ystod o siapiau 2D ac yna’n defnyddio’r dysgu hwn i ddylunio logo i’w busnes.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn dysgu enwi amrywiaeth o blanhigion a choed ffrwythau a labelu eu rhannau. Yna maent yn archwilio ystod o hadau ffrwythau ac yn disgrifio eu priodweddau gan ddefnyddio iaith gymharol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn meddwl am fwyta’n iach a’r maetholion sydd wedi’u cynnwys ym mhob grŵp bwyd. Gan ddefnyddio’r dysgu hwn, yr her iddynt wedyn yw i ddefnyddio ystod o ffrwythau tymhorol i ddylunio iogwrt baner fwyd y gallant ei werthu yn eu caffis iogwrt.
I wneud cynnyrch bwyd
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gwneud yr iogwrt baner fwyd y maen nhw wedi’i ddylunio gan ddefnyddio’r cynhwysion y gwnaethon nhw eu dewis. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae’r adran ‘Mathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu defnyddio i addysgu neu atgyfnerthu rhai o amcanion dysgu Blwyddyn 1 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn archwilio eu pum synnwyr cyn eu defnyddio i werthuso eu pwdin iogwrt.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn defnyddio eu sgiliau Dylunio a Thechnoleg i ddylunio a gwneud deunydd pacio a hyrwyddo tecawê ar gyfer eu caffis iogwrt. Mae cyfleoedd iaith trawsgwricwlaidd yn cael eu cynnwys pan fydd y plant yn cynllunio ac yn perfformio eu hysbysebion teledu eu hunain.
Mae'r plant yn gweithio mewn grwpiau i gwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn tyfu eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion pizza baner bwyd eu hunain, sefydlu busnes pizzeria ac ymarfer defnyddio arian mewn cyd-destun bywyd go iawn.
Yn ystod y prosiect Ffermio STEMterprise bydd plant yn cwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn paratoi eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion pizza baner fwyd Prydain eu hunain, sefydlu pizzeria Prydeinig a defnyddio arian mewn cyd-destun bywyd go iawn
I ddisgrifio sut mae anifeiliaid yn cael eu bwyd o blanhigion ac anifeiliaid eraill, gan ddefnyddio'r syniad o gadwyn fwyd syml, a nodi ac enwi gwahanol ffynonellau bwyd
Yn y cam hwn, mae'r plant yn cael eu cyflwyno i'w her: sefydlu busnes pizzeria Prydeinig. Bydd y plant yn dewis enw ac yn dylunio logo ar gyfer eu busnes cyn dysgu o ble mae ystod o fwyd yn dod ac yn adeiladu cadwyn fwyd syml i ddangos hyn
Yn y cam hwn, mae'r plant yn dysgu'r amodau sydd eu hangen i blanhigion dyfu. Mae hyn yn cael ei ymestyn i ddysgu o ble mae cynhwysion pizza yn dod, eu tyfu ac arsylwi pa blanhigion sy'n tyfu gyflymaf yn ystod gweithgaredd 'Y ras gynhwysion fawreddog'.
Mae rhoi'r cyfrifoldeb i'r plant am ofalu am eu cnydau eu hunain yn darparu cyfleoedd iddynt brofi heriau ffermwyr a pherchnogion busnes mewn ffordd syml iawn. Er enghraifft, os na fydd y cnydau'n tyfu, ni fydd ganddyn nhw ddigon o gynhwysion i wneud eu cynhyrchion a fydd yn eu gadael heb ddim i'w werthu.
Yn y cam hwn, cyflwynir y plant i'r syniad o ymchwil marchnad fel cyd-destun gafaelgar ac ystyrlon ar gyfer dysgu Mathemateg. Trwy hyn, maen nhw'n dysgu sut i ddylunio arolwg syml i ddeall hoff ddewisiadau eu darpar gwsmeriaid pizzeria ac adeiladu pictogram i arddangos eu canfyddiadau.
Yn y cam hwn, mae'r plant yn meddwl am fwyta'n iach a'r maetholion sydd wedi'u cynnwys ym mhob grŵp bwyd. Gan ddefnyddio'r dysgu hwn, fe'u herir wedyn i ddefnyddio ystod o gynhwysion tymhorol i ddylunio pizza baner bwyd y gallant ei werthu yn eu busnesau pizzeria ym Mhrydain.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gwneud y pizza baner bwyd y maen nhw wedi'i ddylunio gan ddefnyddio'r cynhwysion maen nhw wedi bod yn eu tyfu. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae'r adran 'Mathemateg gydag ystyr' yn darparu syniadau y gellid eu defnyddio i addysgu neu atgyfnerthu rhai o amcanion dysgu Blwyddyn 2 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, mae'r plant yn defnyddio eu sgiliau Dylunio a Thechnoleg i ddylunio a gwneud deunydd pacio tecawê a hyrwyddo ar gyfer eu pizzerias Prydeinig. Mae cyfleoedd iaith trawsgwricwlaidd yn cael eu cynnwys pan fydd y plant yn cynllunio ac yn perfformio eu hysbysebion teledu eu hunain.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn sefydlu eu pizzerias ac yn ymarfer gweithio gydag arian a thalu am eitemau gan ddefnyddio gwahanol gyfuniadau o ddarnau arian. I ychwanegu mwy o gyd-destun bywyd go iawn, gellid cwblhau'r cam hwn fel digwyddiad ar ôl ysgol y gellid gwahodd rhieni iddo.
Mae plant yn gweithio mewn grwpiau i sefydlu busnes siop fferm a dylunio, gwneud a marchnata cynnyrch bwyd amser cinio newydd.
Bydd y prosiect Ffermio STEMterprise yn rhoi cyfle i blant gwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn tyfu eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion bwyd eu hunain yn ogystal â chynhyrchion di-fwyd, sefydlu busnes siop fferm a chyfrifo gydag arian mewn cyd-destun deniadol, bywyd go iawn.
Nodi a disgrifio swyddogaethau gwahanol rannau o blanhigion blodeuol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn adolygu eu dysgu Gwyddoniaeth Blwyddyn 2 gan gychwyn gyda Ras Gyfnewid Fertigol (cysyniad dysgu Talk-less gan Isabella Wallace a Leah Kirkman) ac yn adeiladu ar hyn i ymchwilio yn annibynnol i swyddogaethau gwahanol rannau o blanhigyn blodeuol. Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol a Mathemateg ystyrlon yn cael eu cynnwys pan fydd y plant yn tyfu eu planhigion ffa eu hunain ac yn eu harsylwi’n rheolaidd i gwblhau eu dyddiaduron ffa.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn adolygu eu dysgu ar yr hyn sydd ei angen ar blanhigion i dyfu ac yn plannu eu hadau perlysiau eu hunain i’w defnyddio yn y dyfodol i roi blas ar eu bara. Mae rhoi’r cyfrifoldeb i’r plant am ofalu am eu cnydau eu hunain yn darparu cyfleoedd iddynt brofi heriau ffermwyr a pherchnogion busnes mewn ffordd syml iawn. Er enghraifft, os na fydd y cnydau’n tyfu, ni fydd ganddyn nhw ddigon o gynhwysion i wneud eu cynhyrchion a fydd yn eu gadael heb ddim i’w werthu. Mae cyfle ysgrifennu trawsgwricwlaidd wedi’i gynllunio pan fydd y plant yn defnyddio clipiau fideo i’w hysbrydoli i ysgrifennu barddoniaeth siâp o safbwynt planhigyn sy’n tyfu.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn cael eu cyflwyno i’r syniad o ymchwil i’r farchnad fel cyd-destun gafaelgar ac ystyrlon ar gyfer dysgu Mathemateg. Trwy hyn, maent yn dysgu sut i ddylunio arolwg syml i ddeall hoffterau eu darpar gwsmeriaid ac adeiladu pictogram i arddangos eu canfyddiadau. Yna maen nhw’n gweithio fel grŵp i ddod i benderfyniad terfynol ynghylch pa flas o fara/bara fflat y dylai eu busnes ei wneud.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn meddwl am fwyta’n iach a’r maetholion sydd wedi’u cynnwys ym mhob grŵp bwyd. Gan ddefnyddio’r dysgu hwn, ac ysbrydoliaeth o lyfrau ryseitiau a’r rhyngrwyd, fe’u herir wedyn i ystyried prydau ochr a llenwadau brechdanau wrth ddylunio pryd bwyd iach a chytbwys y gallent ei wneud gan ddefnyddio’r cynnyrch bwyd a gynlluniwyd ganddynt y wers ddiwethaf.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gwneud cynnyrch di-fwyd gan ddefnyddio eu blodau gwasgedig ac yna’n cael eu cyflwyno i’r syniad o elw mewn ffordd syml iawn i’w galluogi i ddewis pris gwerthu am eu cynhyrchion siop fferm. Yng nghyd-destun siop fferm chwarae rôl, bydd y plant yn ymarfer ychwanegu gyda phunnoedd a cheiniogau (er mwyn cyfrifo cyfansymiau archeb) a thynnu (er mwyn cyfrifo newid eu cwsmeriaid)
Archwilio’r rhan y mae blodau’n eichwarae yng nghylch bywyd planhigion blodeuol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn dysgu am y rôl y mae’r blodyn yn ei chwarae yng nghylch bywyd planhigyn ac yn dechrau archwilio prosesau peillio a ffrwythloni planhigion blodeuol. Ar ôl dyrannu blodau ac archwilio’r rhannau allweddol yn ofalus, gofynnir i’r plant adeiladu a labelu cerflun blodau gan ddefnyddio defnyddiau wedi’u hailgylchu a chyflwyno eu dysgu i’w cyfoedion.
Deall sut mae dŵr yn cael ei gludo mewn planhigion.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn deall swyddogaeth y coesyn ac yn dysgu sut mae dŵr yn cael ei gludo mewn planhigion trwy wneud cynnyrch di-fwyd y gallant ei werthu yn eu siop fferm ochr yn ochr â’r cynnyrch bwyd y byddant yn ei wneud yn y cam nesaf. Bydd y plant yn sefydlu arsylwad syml i archwilio’r hyn sy’n digwydd i’w carnations gwyn pan gânt eu rhoi mewn dŵr lliw ac yna dylunio cynnyrch y gallent ei wneud gan ddefnyddio eu blodau lliw gwasgedig.
Cynhyrchu cynnyrch bwyd.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gweithio yn eu grwpiau busnes i ddefnyddio’r perlysiau y maent wedi bod yn eu tyfu, ynghyd â chynhwysion ychwanegol, i ddilyn eu ryseitiau bara wedi’u haddasu a gwneud eu cynnyrch bara â blas. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae’r adran ‘Mathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu defnyddio i addysgu neu atgyfnerthu llawer o amcanion dysgu Blwyddyn 3 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn defnyddio eu sgiliau Technoleg i ddylunio a gwneud deunydd pacio a hyrwyddo ar gyfer eu cynhyrchion bwyd. Mae cyfleoedd iaith trawsgwricwlaidd yn cael eu cynnwys pan fydd y plant yn cynllunio ac yn perfformio eu hysbysebion teledu eu hunain.
I gyfrifo gydag arian a rhoi newid
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gwneud cynnyrch di-fwyd gan ddefnyddio eu blodau gwasgedig ac yna’n cael eu cyflwyno i’r syniad o elw mewn ffordd syml iawn i’w galluogi i ddewis pris gwerthu am eu cynhyrchion siop fferm. Yng nghyd-destun siop fferm chwarae rôl, bydd y plant yn ymarfer ychwanegu gyda phunnoedd a cheiniogau (er mwyn cyfrifo cyfansymiau archeb) a thynnu (er mwyn cyfrifo newid eu cwsmeriaid).
Mae plant yn gweithio mewn grwpiau i sefydlu busnes siop fferm a dylunio, gwneud a marchnata cynnyrch bwyd amser cinio newydd gan ddefnyddio cynhyrchion llaeth.
Yn ystod y prosiect Ffermio STEMterprise bydd plant yn cwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn tyfu eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynhyrchion bwyd eu hunain, sefydlu busnes siop fferm a chyfrifo gydag arian mewn cyd-destun deniniadol bywyd go iawn.
Nodi’r organau sy’n rhan o’r system dreulio a’u swyddogaethau
Yn y cam hwn, cyflwynir y plant i’r system dreulio, ei swyddogaethau a sut mae’n gweithio trwy adeiladu eu system dreulio eu hunain yn yr ystafell ddosbarth. Yna bydd y plant yn cymhwyso eu dysgu gyda cyfleon ysgrifennu trawsgwricwlaidd: ysgrifennu stori fer o safbwynt darn o fwyd yn teithio ar daith trwy’r system dreulio.
Nodi’r gwahanol fathau o ddannedd mewn bodau dynol a’u swyddogaethau syml
Yn y cam hwn, mae’r plant yn dysgu enwau a swyddogaethau’r gwahanol fathau o ddannedd ac yn defnyddio hyn trwy wneud map o’u dannedd eu hunain. Yna maen nhw’n dysgu sut i ofalu am eu dannedd a pha fwydydd fydd yn cyfrannu at gynnal iechyd eu dannedd. Bydd y dysgu hwn yn eu helpu i ddatblygu eu rysáit ar gyfer cynnyrch bwyd llawn calsiwm yn y cam nesaf.
Ar ôl dysgu am y rôl y mae cynhyrchion llaeth yn ei chwarae mewn diet cytbwys yn y cam diwethaf, yn y cam hwn mae’r plant yn dysgu am gyflyrau mater a newidiadau cildroadwy ac anghildroadwy trwy gynnal ymchwiliad i gymharu’r tymheredd y mae dau gynnyrch llaeth yn newid cyflwr. Mae cyfleoedd i weithio yn wyddonol a defnyddio Mathemateg ystyrlon yn cael eu cynnwys trwy gydol y wers.
Dylunio cynnyrch bwyd iach
Yn y cam hwn, mae plant yn meddwl am y tymhorau, bwyta’n iach a’r maetholion sydd wedi’u cynnwys ym mhob grŵp bwyd. Gan ddefnyddio’r dysgu a’r ysbrydoliaeth o lyfrau ryseitiau a’r rhyngrwyd, fe’u herir wedyn i ddylunio eu tarten neu ddiod brecwast eu hunain. Mae gan athrawon yr hyblygrwydd i ddatblygu naill ai diod brecwast neu gynnyrch tarten yn y cam hwn fel y gellir addasu’r prosiect yn unol â’r cyfleusterau a’r amser sydd ar gael.
Yn y cam hwn, cyflwynir y plant i’r syniad o ymchwil i’r farchnad fel cyd-destun gafaelgar ac ystyrlon ar gyfer dysgu Mathemateg. Trwy hyn, maent yn dysgu sut i ddylunio arolwg syml i ddeall hoffterau eu darpar gwsmeriaid ac yn llunio siart bar i arddangos eu canfyddiadau. Yna maen nhw’n gweithio fel tîm i ddod i benderfyniad terfynol ynghylch â pha gynnyrch bwyd y dylai eu busnes ei wneud.
Gellid cwblhau’r wers hon ar ôl neu yn ystod bloc o ddysgu ar ddulliau adio a thynnu ysgrifenedig neu gyfrifo gydag arian. Mae’n caniatáu i’r plant gymhwyso eu dysgu i ddatrys problemau bywyd go iawn ac mae’n rhoi pwrpas atyniadol i’r rhai a allai gael eu dadrithio gan Fathemateg.
Gallai’r plant ddarganfod cost eu cynhwysion gan ddefnyddio gwefan archfarchnad, neu fe allech chi gwblhau’r wers hon mewn archfarchnad a rhoi cyfle iddyn nhw dalu am eu heitemau eu hunain.
Yn y cam hwn, mae gan y plant gyfle i ddysgu am sut mae cynhyrchion llaeth yn cael eu cynhyrchu a gwneud eu cynhwysyn llaeth eu hunain y byddan nhw’n ei ddefnyddio yn y ryseitiau y maent wedi’u cynllunio a chyllidebu ar eu cyfer. Os ydych chi wedi dewis gwneud diod brecwast, efallai yr hoffech chi beidio â gwneud y menyn a dim ond dysgu’r cynnwys i egluro sut mae’r iogwrt y byddwch chi’n ei ddefnyddio yn eich ryseitiau yn cael ei wneud.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn gweithio yn eu grwpiau busnes i ddefnyddio’r menyn a wnaethant, ynghyd â chynhwysion ychwanegol y gwnaethant gyllidebu ar eu cyfer, i ddilyn eu ryseitiau cynnyrch bwyd wedi’u haddasu a gwneud eu cynnyrch bwyd sy’n llawn calsiwm. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae’r adran ‘Mathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu defnyddio i addysgu neu atgyfnerthu llawer o amcanion dysgu Blwyddyn 4 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn cael eu cyflwyno i’r cysyniad o refeniw ac elw ac yn cael eu harwain trwy bob cam o benderfynu ar bris eu cynnyrch, gan gyfrifo cyfanswm eu refeniw a’u helw disgwyliedig.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn defnyddio eu sgiliau Technoleg i ddylunio a gwneud defnydd pacio a hyrwyddo ar gyfer eu cynhyrchion bwyd. Mae cyfleoedd trawsgwricwlaidd Saesneg neu Cymraeg yn cael eu cynnwys pan fydd y plant yn cynllunio ac yn perfformio eu hysbysebion teledu eu hunain.
Mae’r plant yn gweithio mewn grwpiau i sefydlu busnes siop fferm a dylunio, gwneud a marchnata cynnyrch bwyd amser cinio newydd gan ddefnyddio cynhwysion maen nhw wedi’u tyfu eu hunain.
Yn ystod prosiect Ffermio STEMterprise bydd plant yn cwblhau ystod o dasgau trawsgwricwlaidd er mwyn tyfu eu cynhwysion eu hunain, datblygu eu cynnyrch bwyd eu hunain a sefydlu busnes siop fferm.
Yn y sesiwn hon, mae’r plant yn cael eu cyflwyno i’r syniad o farchnata mewn ffordd syml iawn ac yn cael eu hannog i feddwl am enghreifftiau yn eu bywydau bob dydd. Gofynnir i grwpiau busnes feddwl am enw busnes a dylunio logo busnes cofiadwy. Yna rhoddir cyfle i’r plant feddwl o ble mae eu bwyd yn dod a thrafod y cynhwysion y gallent eu tyfu eu hunain cyn meddwl am hyd cylch bywyd a natur dymhorol planhigyn wrth archwilio ystod o becynnau hadau i benderfynu pa gynhwysyn llysiau y dylai eu busnes ei dyfu.
Deall sut mae planhigion blodeuol yn atgenhedlu
Yn y cam hwn, mae’r plant yn adolygu eu dysgu Gwyddoniaeth Blwyddyn 3 gyda Ras Gyfnewid Fertigol (cysyniad o ddysgu Talk-less gan Isabella Wallace a Leah Kirkman) ac yn adeiladu ar hyn i ddeall y prosesau sy’n gysylltiedig ag atgenhedlu rhywiol mewn planhigion. Ar ôl dyrannu blodau ac archwilio eu rhannau allweddol yn ofalus, gofynnir i’r plant ysgrifennu disgrifiad o brosesau peillio a ffrwythloni cyn adrodd a chynhyrchu animeiddiad araf i ddangos y broses.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn adolygu eu dysgu ar ofynion planhigion ar gyfer bywyd a thwf ac yn plannu eu hadau llysiau eu hunain. Mae’r gweithgareddau sy’n weddill yn yr adran hon yn cael eu cwblhau dros gyfres o wythnosau i ganiatáu amser i’r planhigion dyfu. Wrth i’r planhigion dyfu, mae cyfleoedd Mathemateg gydag ystyr yn cael eu cynllunio pan fydd y plant yn mesur uchder eu planhigion yn rheolaidd ac yn defnyddio’r data i blotio graff llinell. Mae rhoi’r cyfrifoldeb i’r plant am ofalu am eu cnydau eu hunain yn darparu cyfleoedd iddynt brofi heriau ffermwyr a pherchnogion busnes mewn ffordd syml iawn. Er enghraifft, os na fydd y cnydau’n tyfu, ni fydd ganddyn nhw ddigon o gynhwysion i wneud eu cynhyrchion a fydd yn eu gadael heb ddim i’w werthu.
Archwilio ffyrdd y mae planhigion yn atgenhedlu heb hadau
Yn y cam hwn, mae’r plant yn dysgu am atgenhedlu anrhywiol mewn planhigion ac yn cael cyfle i ymchwilio i wahanol ffyrdd y gall tyfwyr ddefnyddio hyn yn artiffisial. Yna bydd y plant yn tyfu ail lysieuyn i’w ddefnyddio yn eu ryseitiau gan ddefnyddio un o’r dulliau yr ymchwiliwyd iddynt. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ystyried manteision ac anfanteision atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol mewn planhigion, gan dynnu ar eu profiad ymarferol o dyfu planhigion gan ddefnyddio’r ddau ddull.
Dylunio rysáit iach
Yn y cam hwn, mae plant yn meddwl am fwyta’n iach a’r maetholion sydd wedi’u cynnwys ym mhob grŵp bwyd. Gan ddefnyddio’r dysgu hwn, ac ysbrydoliaeth o lyfrau ryseitiau a’r rhyngrwyd, fe’u herir wedyn i ddylunio detholiad o ryseitiau y gallent eu cynhyrchu gyda’r llysiau y maent yn eu tyfu.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn adolygu sut i ddylunio arolwg ac adeiladu siart bar trwy gyd-destun gafael garymchwil marchnata. Mae’r plant yn dylunio ac yn cynnal arolwg i ddarganfod am hoffterau eu darpar gwsmeriaid. Yna maent yn defnyddio canlyniadau eu harolwg i lywio eu penderfyniadau wrth ddewis cynnyrch terfynol i’w busnes ei wneud.
Gellid cwblhau’r ddau gam canlynol ar ôl neu yn ystod bloc o addysgu ar ddulliau adio a thynnu ysgrifenedig. Maent yn caniatáu i’r plant gymhwyso eu dysgu i ddatrys problemau bywyd go iawn a rhoi pwrpas atyniadol i’r rhai a allai gael eu dadrithio gan Fathemateg
Gallai’r plant ddarganfod cost eu cynhwysion gan ddefnyddio gwefan archfarchnad, neu fe allech chi gwblhau’r wers hon mewn archfarchnad a rhoi cyfle iddyn nhw dalu am eu heitemau eu hunain.
Gellid cwblhau’r cam hwn ar ôl neu yn ystod bloc o addysgu ar ddulliau adio a thynnu ysgrifenedig. Mae’n caniatáu i’r plant gymhwyso eu dysgu i ddatrys problemau bywyd go iawn ac mae’n rhoi pwrpas atyniadol i’r rhai a allai gael eu dadrithio gan Fathemateg.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn gweithio yn eu grwpiau busnes i ddefnyddio’r llysiau y maent wedi bod yn eu tyfu, ynghyd â’r cynhwysion ychwanegol y gwnaethant gyllidebu ar eu cyfer, i ddilyn eu ryseitiau wedi’u haddasu a gwneud eu cynhyrchion bwyd. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae’r adran ‘Ychwanegu pinsiad o Fathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu cynnwys i addysgu neu atgyfnerthu llawer o amcanion dysgu Blwyddyn 5 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn gweithio yn eu grwpiau busnes i ddefnyddio’r llysiau y maent wedi bod yn eu tyfu, ynghyd â’r cynhwysion ychwanegol y gwnaethant gyllidebu ar eu cyfer, i ddilyn eu ryseitiau wedi’u haddasu a gwneud eu cynhyrchion bwyd. Dyma gyfle gwych i roi cyfleoedd bywyd go iawn ystyrlon i blant gymhwyso eu dysgu Mathemateg. Mae’r adran ‘Ychwanegu pinsiad o Fathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu cynnwys i addysgu neu atgyfnerthu llawer o amcanion dysgu Blwyddyn 5 mewn ffordd ymarferol.
Yna bydd y plant yn archwilio hysbysebion bwyd ac mae cyfleoedd trawsgwricwlaidd Saesneg a Chymraeg yn cael eu cynnwys wrth ysgrifennu a pherfformio eu hysbysebion print a theledu eu hunain
Mae’r plant yn gweithio mewn grwpiau i sefydlu busnes bwyty gyda thema a dylunio, gwneud a marchnata ystod o brydau bwyd sy’n cynnwys bwyd Prydeinig fel eu prif gynhwysyn.
Yn ystod prosiect Ffermio STEMterprise mae plant yn cwblhau cyfres o weithgareddau i sefydlu eu bwyty eu hunain a dylunio, datblygu, gwneud a marchnata bwydlen sy’n cynnwys bwyd Prydeinig fel ei brif gynhwysyn.
Sefydlu busnes bwyty â thema
Yn y cam hwn, mae’r plant yn cael eu cyflwyno i’r syniad o farchnata ac yn cael eu hannog i feddwl am enghreifftiau yn eu bywydau bob dydd. Gofynnir i grwpiau busnes feddwl am enw busnes a dylunio logo busnes cofiadwy. Yna rhoddir cyfle i’r plant feddwl o ble mae eu bwyd yn dod a phwysigrwydd bwyta cynnyrch tymhorol.
Yn y cam hwn, mae’r plant yn dysgu adnabod prif rannau’r system gylchrediad gwaed a’u swyddogaeth. Yna mae hyn yn cael ei gysylltu â’r ffactorau ffordd o fyw a all effeithio ar iechyd y galon. Bydd y plant yn gweithio’n wyddonol i ddylunio a chynnal eu hymchwiliad eu hunain i archwilio’r cwestiwn: “Pa effaith mae ymarfer corff yn ei gael ar ein calon?”
Yn y cam hwn, cyflwynir y plant i’r cysyniad o ymchwil marchnata fel offeryn busnes i ddarganfod hoffterau cwsmeriaid eu bwyty, eu helpu i benderfynu pa gynhwysyn y dylent serennu yn eu bwyty ac i ddechrau arwain eu dewisiadau ar y fwydlen. Bydd y plant yn dylunio arolwg ac yn dysgu sut i lunio siart cylch i arddangos eu canlyniadau.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn adolygu eu dysgu ar fwyta’n iach a gofynion deiet maethlon, cytbwys. Gan ddefnyddio’r dysgu hwn, eu hymchwil i gadw eu calonnau’n iach o Gam 2 ac ysbrydoliaeth o lyfrau ryseitiau a’r rhyngrwyd, byddant wedyn yn cael eu herio i ddylunio ystod o seigiau yn dathlu eu cynhwysyn seren. Mae hyn yn ymestyn y dysgu o brosiect STEMterprise Blwyddyn 5 gan ei fod yn caniatáu rhyddid i’r plant greu bwydlen lawn a dilyn eu chwaeth a’u diddordebau eu hunain wrth ddatblygu ryseitiau.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn cael eu herio i wneud yn siwr fod eu syniadau ar y fwydlen o fewn cyllideb. Byddant yn defnyddio dulliau cyfrifo ysgrifenedig mewn cyd-destun bywyd go iawn i addasu eu syniadau ar gyfer un o’u seigiau nes eu bod yn fforddiadwy. Gallai’r plant ddarganfod cost eu cynhwysion gan ddefnyddio gwefan archfarchnad, neu fe allech chi gwblhau’r wers hon mewn archfarchnad a rhoi cyfle iddyn nhw dalu am eu heitemau eu hunain.
Problem ychwanegol y bydd angen i’r plant ei hystyried yw cynnwys maethol y saig o’u dewis a byddant hefyd yn addasu eu rysáit i gyd-fynd â gofynion maethol eu marchnad darged.
Mae’r cam hwn yn rhoi cyfle i’r plant adolygu a defnyddio dulliau cyfrifo ffurfiol mewn cyd-destun bywyd go iawn wrth benderfynu ar bris gwerthu ar gyfer eu prydau bwyty a chyfrifo eu pwynt adennill costau a’r elw disgwyliedig.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn defnyddio eu dysgu Mathemateg i ddylunio cynllun llawr o ardal eistedd eu bwyty. Yna byddant yn defnyddio gwefannau siopa ar-lein i gyfrifo cost eu dyluniad a sicrhau ei fod yn cydfynd â’u cyllideb.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn ailedrych ar eu dysgu am drydan ac yn archwilio’r berthynas rhwng disgleirdeb lamp a foltedd y celloedd a ddefnyddir yn y gylched. Yna byddant yn gweithio mewn grwpiau i adeiladu model graddfa 3D o’u bwyty gan ddefnyddio eu cynllun llawr o’r wers flaenorol a defnyddio eu dysgu trydan i ddylunio a gwneud cylched goleuo i osod y naws a ddymunir yn eu bwyty.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn cynllunio ac yn dilyn y rysáit wedi’i haddasu o’u dewis i wneud y saig cytbwys o’u bwydlen y gwnaethant gyllidebu ar ei chyfer a’i dadansoddi yng Ngham 5. Mae hwn yn gyfle da i’r plant adolygu a chymhwyso’r technegau paratoi bwyd a addysgwyd mewn prosiectau STEMterprise blaenorol i ddadansoddi sut mae cogyddion proffesiynol yn cynhyrchu prydau a’u hail-greu drostynt eu hunain.
Mae’r adran ‘Ychwanegu pinsiad o Fathemateg gydag ystyr’ yn darparu syniadau y gellid eu cynnwys i adolygu llawer o amcanion dysgu Cyfnod Allweddol 2 mewn ffordd ymarferol.
Yn y cam hwn, bydd y plant yn cymryd ysbrydoliaeth o hysbysebion bwyd a bwytai ac yn dysgu am wahanol fathau o hyrwyddiad y mae busnesau’n eu defnyddio i ddenu cwsmeriaid. Byddant yn defnyddio’r dysgu hwn i ddylunio ymgyrch hysbysebu i hyrwyddo eu bwyty â thema.
Ar ôl hynny, bydd y plant yn cael eu herio i baratoi cyflwyniad byr i egluro eu taith fusnes ac arddangos y saig a’r model bwyty â thema o’u dewis.